Atgyfodiad sylweddol
yn yr Hen Ffydd...!
Dros
y penwythnos hwn bydd Comic Expo blynyddol Caerdydd yn cael ei gynnal
yng ngwesty'r Mercure Holland House ar Hewl Casnewydd – a'r tro yma dros
ddeuddydd,
o fore dydd Sadwrn tan nos Sul.
Bydd
Dalen yn gosod eu stondin yno lle cewch chi gyfle i bori drwy bob un
o'n llyfrau yn Gymraeg a Saesneg. Yno hefyd byddwn yn cyflwyno'n llyfr
diweddara i gynulleidfa sy wedi bod yn awchu am gael ei weld ers meityn.
Druids: 2 The Altars of Destiny yw'r ail albym yng nghyfres Druids (sy'n cyfuno llyfrau 3 a 4 y gyfres Derwyddon yn Gymraeg).
Yn
y gyfrol ddiweddara hon, mae ymchwil y derwydd Gwynlan i lofruddiaethau
mileinig mynachod Llydaw yn dod ag e i geisio canfod y gwirionedd yn
Ynys y Cedyrn (sef enw barddonol ein cyndeidiau ar Brydain) cyn croesi
dyfroedd tymhestlog Afon Menai i gysegr y derwyddon ym Môn. Tipyn o
antur yn y gyfrol hir-ddisgwyliedig hon; fe fydd hi ar gael yn yr Expo,
hefyd ar wefan Dalen (dalenllyfrau.com) neu gan bob llyfrwerthwr da am £9.99 – neu lai!
Derwyddon: Y Maen Rhial
er y ffordd!
Mae hi'n eitha bishi yn Dalen ar hyn o bryd, achos cyn diwedd mis Mawrth bydd pumed rhan cyfres Gymraeg y Derwyddon wedi cyrraedd y siopau. Bydd Y Maen Rhial yn
mynd â'r derwydd Gwynlan o Ynys Môn, a dros y môr i bellafoedd niwlog
Ynysoedd Heledd. Yno daw ar draws lwyth brawychus y Prydyn – ond er mor
frawychus, mae dal angen cymorth y derwydd deallus arnyn nhw i adfer un
o'u hen drysorau.
Cyfrinach…
hen ffefryn nôl yn yr haf!
Dyw'r
cyhoeddiad swyddogol heb gael ei wneud eto, ond mae cyfres stori
stribed mwya llwyddiannus Ewrop (ar wahân i Tintin, falle) ar ei ffordd
nôl i ddarllenwyr Cymraeg! Bydd tair cyfrol yn ymddangos ym mis
Gorffennaf mewn cyfieithiadau newydd sbon. Siwr gen i y bydd mwy o
fanylion i ddilyn yn fuan fuan iawn!
Clec i Tintin ym mis Medi…
Yn y cyfamser, un teitl newydd y gallwn ni ddatgan sydd ar y ffordd ar gyfer mis Medi yw antur nesa'r gohebydd pengoch Tintin. Bydd Y Glust Glec yn mynd â Tintin a'i gyfeillion i lond côl o drwbwl chwyslyd yn jyngl De America. Antur sy'n werth disgwyl amdani!
OK,
if you're a Tintin fan and can't see the English equivalent of this
blurb, well here it is… planned for September this year is Tintin's
latest Welsh adventure, Y Glust Glec, aka L'Oreille Cassée or The Broken Ear. Can't wait!
|
No comments:
Post a Comment