New Asterix and Tintin Adventures –
in Welsh, Cornish, Irish, Gaelic and Scots
|
|
Mae Asterix a Tintin
wedi ennill eu plwy ar draws y byd fel ffefrynnau llyfrau straeon
stribed, a'u hanturiaethau wedi eu trosi i dros gant o wahanol
ieithoedd. Yn eu plith mae'r Gymraeg, Cernyweg, Gwyddeleg, Gaeleg a
Sgoteg – gyda dwy antur newydd i Asterix yn Gymraeg yn cael eu cyhoeddi y Nadolig hwn!
|
|
|
Asterix and Tintin are firm comic book favourites all around the world. Both have taught themselves well over a hundred languages. Asterix has two brand new Welsh adventures out for Christmas, and Tintin joins him with appearances in Cornish, Irish, Gaelic and Scots!
|
|
|
Asterix a'r Cryman Aur © Les Editions Albert-René/Goscinny-Uderzo 2014
|
Asterix a'r Cryman Aur ac Asterix a'r Snichyn yw anturiaethau diweddara'r Galiad bach peniog yn Gymraeg. Mae tipyn o greisis yn taro pentre'r Galiaid yn Asterix a'r Cryman Aur.
Ar gyfer paratoi y ddiod hud ryfeddol sy'n cadw'r Rhufeiniaid draw, mae
angen i'r derwydd Gwyddoniadix ddefnyddio cryman aur. Ond ar ôl torri
llafn yr unig gryman sy ganddo, mae gofyn i Asterix deithio ymhell, a
datrys dirgelwch, er mwyn cael gafael ar gryman newydd o safon.
Daw pentre'r Galiaid dan fygythiad cyfrwys y Rhufeiniaid yn Asterix a'r Snichyn...
mae Iŵl Cesar yn ceisio tanseilio undod y llwyth drwy daenu enllib a
drwgdeimlad ymysg y pentrefwyr – ac mae gan ei gynllun gyfle rhagorol i
lwyddo, diolch i snichyn bach dan din o'r enw Bacterius Drwgynycaus.
Tybed a fydd Asterix a'i gyfeillion yn ddigon hirben i wrthsefyll y
bygythiad? Amser a ddengys!
|
|
The plucky Gaul has two new adventures in Welsh – Asterix a'r Cryman Aur (Asterix and the Golden Sickle) and Asterix a'r Snichyn (Asterix and the Roman Agent). There's a bit of a panic in Asterix a'r Cryman Aur...
to prepare the magic potion which keeps the Romans at bay, druid
Gwyddoniadix has to use his golden sickle – but when the druid breaks
the one and only sickle he possesses, Asterix is given the task of
buying a new one. This takes Asterix on a dangerous journey to distant
Lutetia where a mystery awaits him before he can find a sickle that
meets the druid's exacting standards.
In Asterix a'r Snichyn,
the Gaulish village is under threat from a cunning Roman plan, as
Julius Caesar tries to spread distrust and bad blood throught the
Gaulish tribe. Caesar's plan is sure to succeed thanks to his agent
provocateur, Bacterius Drwgynycaus. He's a nasty piece of work, and
Asterix and his friends will find it hard to resist his wily ploys.
|
|
Asterix a'r Snichyn © Les Editions Albert-René/Goscinny-Uderzo 2014
|
Tintin: Todóga na bhFarónna (Gwyddeleg / Irish) © Hergé/Moulinsart 2014
|
Y Bad Rachub
yw antur ddiweddara Tintin yn Gymraeg, lle mae Tintin a'i gyfeillion
mewn peryg enbyd ar ddyfroedd dyfnion y Môr Coch. Yn gymar i'r gyfres yn
Gymraeg mae egin o'r gyfres mewn Cernyweg hefyd. An Ynys Dhu
(oes rhaid cyfieithu'r teitl?!) yw stori gynta Tintin mewn Cernyweg, ac
am y tro cynta erioed mae'r gohebydd pengoch hefyd wedi dysgu siarad
Gwyddeleg gyda chyhoeddi Todóga na bhFarónna (Mwg Drwg y Pharo). Mae'r Gernyweg a'r Wyddeleg yn ychwanegu at ffurfafen Geltaidd Tintin, lle cyhoeddwyd Toit nam Phàro a The Merk o the Pharaoh (sef fersiynau o Mwg Drwg y Pharo) mewn Gaeleg a Sgoteg yn ddiweddar.
|
|
Tintin's latest undertaking in Welsh is Y Bad Rachub (Red Sea Sharks),
where Tintin and his companions find themselves in mortal danger aboard
a ship on the Red Sea. Joining the Welsh series are the first ever
Tintin adventures in Cornish – An Ynys Dhu (The Black Island) – and Irish – Todóga na bhFarónna (Cigars of the Pharaoh). These join the growing series in Gaelic and Scots, with the recent publication of Cigars as Toit nam Phàro and The Merk o the Pharaoh – all available from Dalen! |
|
Tintin: An Ynys Dhu (Cernyweg / Cornish) © Hergé/Moulinsart 2014
|
Cofiwch hefyd am…
Don’t forget…
|
Derwyddon: Cystudd y Cyfiawn
|
Mae rhan ola cyfres arswyd Y Derwyddon wedi ei chyhoeddi – penllanw'r gyfres ragorol hon ar gyfer oedolion. Yn Cystudd y Cyfiawn,
y chweched bennod o'r stori, mae tro annisgwyl yng nghynffon y
dirgelwch sy wedi drysu'r derwydd Gwynlan yn ei ymchwil i ganfod y
rheswm dros ladd y mynachod yr Eglwys Geltaidd.
|
|
The final part of the gothic murder-mystery Y Derwyddon is now available. In Cystudd y Cyfiawn,
druid sleuth Gwynlan finds an unexpected twist to his long quest to
reveal the truth behind a score of vicious ecclesiastical deaths.
|
|
Mae llyfrau Dalen ar werth gan siopau llyfrau neu lyfrwerthwyr ar-lein,
Dalen books are available from bookshops and online booksellers,
|
Dalen (Llyfrau) Cyf, Glandŵr, Tresaith, Ceredigion SA43 2JH
Cymru / Wales
dalen@dalenllyfrau.com
+44 (0)1239 811442
© Dalen (Llyfrau) Cyf 2014
© Les Éditions Albert-René 2014
© Hergé/Moulinsart 2014
|
|
|
The best thing about the TINTIN movie was all the kids in the comic shop : " So, this Tintin, is he a new guy ? What are his powers ? "
ReplyDelete