TINTIN
IS BACK IN
WELSH IN TWO
THRILLING ADVENTURES
Hergé’s classics Le Lotus Bleu and Les Bijoux de la Castafiore make their welcome appearance in two new adaptations this spring, as the Tintin series in Welsh goes from strength to strength.
Alaw’r Dŵr (The Lotus) is the Welsh version of Le Lotus Bleu,
published 70 years after Casterman’s original colour edition.
Translator Dafydd Jones said "This is by far one of the most iconic
Tintin albums, and paves the way for some serious social comment by
Hergé. I'm so pleased we've at last been able to publish it in Welsh."
Perdlysau Castafiore… The 1963 comedy of errors Les Bijoux de la Castafiore joins the Welsh series as Perdlysau Castafiore (Castafiore’s Sweetest Gems).
With its clever and complex leads and dead ends, this crafted
adaptation brings brilliant wordplay and enlightened cultural references
to one of Hergé’s most intricate stories.
Don’t forget that Dalen also publishes the Tintin series in Irish, Gaelic, Scots and Cornish.
|
|
|
Mae Tintin nôl
â dwy antur gyffrous
|
Mae
Tintin a’i gymar ffyddlon Milyn yn dychwelyd mewn dwy antur helbulus
newydd yn Gymraeg – y naill yn mynd â ni ymhell draw draw i Tsieina, a’r
llall yn berlen o antur!
Alaw’r Dŵr yw’r stori sy’n dilyn yn syth wedi Mwg Drwg y Pharo.
Wrth iddo fwynhau byw ym mhalas Maharaja Pajamagoulan yn yr India, daw
neges yn galw ar Tintin i fynd i Shanghai. Ar ôl cyrraedd yno mae pawb y
mae e’n cyfarfod â nhw yn cael eu taro gan y gwenwyn gwallgo, a hwnnw’n
fygythiad hefyd i Tintin ei hun. Mae gwleidyddiaeth gythryblus Tsieina
yn rhoi bywyd Tintin mewn perygl, ond er bod cymorth brodorol wrth law,
tybed a fydd hynny’n ddigon i sicrhau llwyddiant i Tintin yn erbyn ei
wrthwynebwyr?!
£6.99
ISBN 978-1-906587-67-3
i’w gyhoeddi ddiwedd mis Mawrth
Perdlysau Castafiore : Bianca
Castafiore, y ddiva osgeiddig fyd-enwog yw canolbwynt yr antur hon sydd
yn llawn troeon trwstan ac â rhyw awgrym o gomedi. Mae Castafiore yn
ymweld â’r Capten Hadog ym Mabelfyw Bach, a thra ei bod hi yno mae’r
hanes yn mynd ar led ei bod hi a’r Capten am briodi. Gyda hynny, daw
cartref y Capten dan chwyddwydr y paparazzi, ac yng nghanol yr holl
sylw, mae perdlysau drudfawr Castafiore yn diflannu — a’r cyhuddiadau’n
rhemp wrth i Tintin a Parry-Williams a Williams-Parry geisio darganfod
pwy yw’r lleidr.
£6.99
ISBN 978-1-906587-68-0
i’w gyhoeddi ddiwedd mis Mawrth
Cofiwch bod gweddill cyfres Tintin yn Gymraeg ar gael ar dalenllyfrau.com – lle cewch chi hyd i’r gyfres hefyd mewn Gwyddeleg, Gaeleg, Cernyweg a Sgoteg
|
Anfonwyd y cylchlythyr hwn atoch gan
This newsletter was sent to you by
Dalen (Llyfrau) Cyf, Tresaith, Ceredigion SA43 2JH
E dalen@dalenllyfrau.com W dalenllyfrau.com Ff 01239 811442
Mae Dalen yn cydnabod cymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru i gyhoeddi’r llyfrau hyn
These titles are published with financial support from the Welsh Books Council
Os nad ydych yn dymuno derbyn newyddion achlysurol oddi wrthom, pwyswch y botwm islaw er mwyn dileu eich cyfeiriad o’n system
Should you not wish to receive occasional information from us, click on the link below to delete your details from our system
© Dalen (Llyfrau) Cyf 2016
© Hergé/Moulinsart 2016
|
|
|
|
No comments:
Post a Comment