PLEASE Consider Supporting CBO

Please consider supporting Comic Bits Online because it is a very rare thing in these days of company mouthpiece blogs that are only interested in selling publicity to you. With support CBO can continue its work to bring you real comics news and expand to produce the video content for this site. Money from sales of Black Tower Comics & Books helps so please consider checking out the online store.
Thank You

Terry Hooper-Scharf

Thursday 2 August 2012

Asterix yn Eisteddfod ’12 • Asterix for Summer


logo Dalen
Eisteddfod Genedlaethol 2012 • National Eisteddfod 2012
 
Asterix ac ObelixMae Asterix nôl yn Gymraeg! Asterix is back in Welsh!


Asterix logo

Asterix Gal am Byth
 
Asterix y Galiad Asterix yn y Gemau Olympaidd Asterix a Choron Cesar
Hawlfraint EAR Goscinny Uderzo
The long wait is over! Asterix the Gaul speaks Welsh once again!
This coming week sees Goscinny and Uderzo’s Asterix series returning to Wales.

Dalen Books is publishing 3 of the indomitable Gaul’s adventures, appearing in Welsh for the first time in over 30 years.

Asterix y Galiad (Asterix the Gaul), Asterix yn y Gemau Olympaidd (Asterix at the Olympic Games) and Asterix a Choron Cesar (Asterix and the Laurel Wreath) will all feature new, remastered Asterix artwork and brand new translations.

Translator Alun Ceri Jones was also responsible for taking Asterix on a Welsh crash course in the 1970s. Back then, as a teenage fan, he began by putting Welsh words into Asterix’s speech bubbles. He offered his translations to a publisher who then took the project further. By now, Alun arguably Wales’ most experienced translator and publisher of comic books and graphic novels.

This summer’s Asterix adventures will be followed by two more by the end of the year, and plans are afoot to publish the brand new, 35th Asterix adventure, in 2013 simultaneously with the album’s appearance around the world.

The Asterix series is priced £6.99 and available from booksellers or online at dalenbooks.com with lots more about Asterix on the official website asterix.com.
Yr Heniaith ar Dafod Asterix!
Mae Asterix, ffefryn y cyfrwng stori stribed gan Goscinny ac Uderzo, ar gael unwaith eto yn Gymraeg – am y tro cynta ers 30 o flynyddoedd!

Bydd tair cyfrol o anturiaethau’r Galiad bach eofn ar gael yn yr Eisteddfod Genedlaethol sy’n dechrau ddydd Sadwrn (a gan lyfrwerthwyr led led Cymru wrth gwrs), ac mae’r disgwyl am weld eu cyhoeddi wedi bod yn hir.

Y dair antur sy’n cael eu cyhoeddi yw Asterix y Galiad, Asterix yn y Gemau Olympaidd ac Asterix a Choron Cesar.

Mae’r llyfrau’n cynnwys cyfieithiadau newydd sbon ynghyd ag arlunwaith sydd wedi ei ddiweddaru ar gyfer manteisio’n llawn ar dechnegau argraffu cyfoes – ar werth am £6.99 yr un yn y siopau neu arlein ar wefan dalenllyfrau.com. Ar y wefan hefyd mae cyfle i chi gael cipolwg y tu fewn i’r anturiaethau newydd.

Dros y blynyddoedd bu galw mawr gan ddarllenwyr Asterix o’r 70au a’r 80au am gael cyhoeddi’r straeon ar gyfer plant y ganrif hon – ond nid ar chwarae bach roedd dod ag Asterix nôl i Gymru.

Bu Dalen yn ceisio sicrhau hawliau Cymraeg Asterix ers bron i 10 mlynedd, a bu sawl camfa i’w croesi a’u goresgyn yn ystod y cyfnod hwnnw, nes cael y golau gwyrdd, bron i 12 mis yn ôl, i fynd ati i gyhoeddi.

Gan fod cymaint o ddŵr wedi mynd o dan y bont ers i Asterix ymddangos yn wreiddiol yn Gymraeg yn y 70au, penderfynwyd cyfieithu’r llyfrau o’r newydd, gan gynnwys rhoi enwau newydd i gymeriadau teulu ehangach Asterix a’i ffrind mynwesol, Obelix. Cliciwch fan hyn i gael cwrdd â Gwyddoniadix, Cenarheibix, Perganiedix a Pwyllpendefix…
Asterix a'i ffrindiau


Er cymaint sydd yn newydd am y llyfrau Asterix hyn, yr un yw’r cyfieithydd er pan droswyd y llyfrau i’r Gymraeg yn wreiddiol – roedd Alun Ceri Jones dal yn yr ysgol pan roddodd eiriau Cymraeg yng ngheg Asterix y tro cyntaf; bellach mae e’n hen law ar gyfieithu a chyhoeddi straeon stribed o bob math i Dalen.

Bu’r gwaith o ddiweddaru’r arlunwaith, sydd hyd at 50 mlwydd oed, yn dipyn o her dros y ddegawd ddwetha. Mae mwy am sut aed ati fan hyn, ond yn y bôn roedd yr arlunwaith gwreiddiol yn dangos ei oed, dulliau argraffu wedi esblygu, a disgwyliadau darllenwyr yn llawer uwch. Anturiaethau Cymraeg Asterix yw’r cyntaf ym Mhrydain – ac ymhith y cyntaf yn y byd – i gyhoeddi albyms Asterix gyda’r arlunwaith newydd hyn.

Asterix y Galiad, Asterix yn y Gemau Olympaidd ac Asterix a Choron Cesar yw ond y cyntaf o stabal Asterix y bydd Dalen yn eu cyhoeddi eleni.

Mae Asterix a Gorchest Prydain a Rhandir y Duwiau eto i ddod cyn diwedd y flwyddyn, ac mae cynlluniau ar y gweill i gyhoeddi antur newydd sbon Asterix yn ystod 2013 yr un pryd ag ymddangosiad cyntaf y llyfr yn yr iaith wreiddiol, Ffrangeg.

Mae llyfrau Asterix ar gael am £6.99 yr un, ar werth gan eich llyfrwerthwr neu ar dalenllyfrau.com.

Cofiwch hefyd bod llawer mwy am Asterix ar wefan asterix.com.
  logo Dalen

Dalen (Llyfrau)  |  Dalen Books
www.dalenllyfrau.com
www.dalenbooks.com
Tresaith, Ceredigion SA43 2JH, Cymru | Wales

01239 811442
marchnata@dalenllyfrau.com
#dalenllyfrau



Os ydych yn dymuno i ni ddileu eich enw o’n rhestr ddosbarthu, anfonwch yr ebost hwn nôl atom gan nodi Dileu yn y teitl, neu dilynwch y linc isod.
If you do not wish to receive further emails from us, please return this message and include Delete in the subject title, or follow the link below.
 
Deil Dalen a’n partneriaid yr hawlfraint ar yr holl ddeunydd sydd yn yr e-neges hon.
Dalen and its partners retain all rights to the content of this e-message.
 
© Dalen (Llyfrau) Cyf 2012
© 2012 Les Éditions Albert-René/Goscinny-Uderzo

No comments:

Post a Comment