PLEASE Consider Supporting CBO

Please consider supporting Comic Bits Online because it is a very rare thing in these days of company mouthpiece blogs that are only interested in selling publicity to you. With support CBO can continue its work to bring you real comics news and expand to produce the video content for this site. Money from sales of Black Tower Comics & Books helps so please consider checking out the online store.
Thank You

Terry Hooper-Scharf

Friday 24 February 2012

Dalen

 
Expo Comics Caerdydd • Cardiff Comic Expo 2012

 
 
Druids newydd yn Gweld y Golau
The new Druids released at the 2012 Cardiff Comic Expo
 
24–25 Chwefror • February 2012
Gwesty’r Mercure Holland House Hotel
Hewl Casnewydd • Newport Road
Caerdydd • Cardiff
 
 
The long wait is over! Druids 2 at the Cardiff Expo!
 
This weekend sees the annual Cardiff Comic Expo being held in the Mercure Holland House. And this year's event is a two-dayer, spread over Saturday and Sunday.
 
Dalen Books' titles will all be there for you to peruse in English and Welsh, including the much-anticipated and long-awaited Druids: 2 The Altars of Destiny.
 
This is the second volume in our exquisitely drawn and thoroughly researched series surrounding the mysterious murders of Celtic monks in the Dark Ages.
 
The story brings druid Gwynlan's investigation to the shores of Britain, where amongst the ancient stones and dense forests more dangers await him and his apprentice Taran.
 
Launched at the Expo, Druids: 2 The Altars of Destiny is available from Dalen directly on dalenbooks.com or from any worthwhile book retailer.
 
Have a look at the book's trailer, either by scanning the QR code below, or clicking on it!
Atgyfodiad sylweddol
yn yr Hen Ffydd...!
 
Dros y penwythnos hwn bydd Comic Expo blynyddol Caerdydd yn cael ei gynnal yng ngwesty'r Mercure Holland House ar Hewl Casnewydd – a'r tro yma dros ddeuddydd,
o fore dydd Sadwrn tan nos Sul.
 
Bydd Dalen yn gosod eu stondin yno lle cewch chi gyfle i bori drwy bob un o'n llyfrau yn Gymraeg a Saesneg. Yno hefyd byddwn yn cyflwyno'n llyfr diweddara i gynulleidfa sy wedi bod yn awchu am gael ei weld ers meityn. Druids: 2 The Altars of Destiny yw'r ail albym yng nghyfres Druids (sy'n cyfuno llyfrau 3 a 4 y gyfres Derwyddon yn Gymraeg).
 
Yn y gyfrol ddiweddara hon, mae ymchwil y derwydd Gwynlan i lofruddiaethau mileinig mynachod Llydaw yn dod ag e i geisio canfod y gwirionedd yn Ynys y Cedyrn (sef enw barddonol ein cyndeidiau ar Brydain) cyn croesi dyfroedd tymhestlog Afon Menai i gysegr y derwyddon ym Môn. Tipyn o antur yn y gyfrol hir-ddisgwyliedig hon; fe fydd hi ar gael yn yr Expo, hefyd ar wefan Dalen (dalenllyfrau.com) neu gan bob llyfrwerthwr da am £9.99 – neu lai!
 
 
Derwyddon: Y Maen Rhial
er y ffordd!
 
Mae hi'n eitha bishi yn Dalen ar hyn o bryd, achos cyn diwedd mis Mawrth bydd pumed rhan cyfres Gymraeg y Derwyddon wedi cyrraedd y siopau. Bydd Y Maen Rhial yn mynd â'r derwydd Gwynlan o Ynys Môn, a dros y môr i bellafoedd niwlog Ynysoedd Heledd. Yno daw ar draws lwyth brawychus y Prydyn – ond er mor frawychus, mae dal angen cymorth y derwydd deallus arnyn nhw i adfer un o'u hen drysorau.
 
Clincar o bennod yn y gyfres, bydd Derwyddon: Y Maen Rhial ar gael am £6.99 tua diwedd mis Mawrth.
 
 
Cyfrinach…
hen ffefryn nôl yn yr haf!
 
Dyw'r cyhoeddiad swyddogol heb gael ei wneud eto, ond mae cyfres stori stribed mwya llwyddiannus Ewrop (ar wahân i Tintin, falle) ar ei ffordd nôl i ddarllenwyr Cymraeg! Bydd tair cyfrol yn ymddangos ym mis Gorffennaf mewn cyfieithiadau newydd sbon. Siwr gen i y bydd mwy o fanylion i ddilyn yn fuan fuan iawn!
 
 
Clec i Tintin ym mis Medi…
 
Yn y cyfamser, un teitl newydd y gallwn ni ddatgan sydd ar y ffordd ar gyfer mis Medi yw antur nesa'r gohebydd pengoch Tintin. Bydd Y Glust Glec yn mynd â Tintin a'i gyfeillion i lond côl o drwbwl chwyslyd yn jyngl De America. Antur sy'n werth disgwyl amdani!
 
OK, if you're a Tintin fan and can't see the English equivalent of this blurb, well here it is… planned for September this year is Tintin's latest Welsh adventure, Y Glust Glec, aka L'Oreille Cassée or The Broken Ear. Can't wait!
 
 
Dalen (Llyfrau)  |  Dalen Bookswww.dalenllyfrau.com
www.dalenbooks.com
Tresaith, Ceredigion SA43 2JH, Cymru | Wales  01239 811443  marchnata@dalenllyfrau.com
 
 
Os ydych yn dymuno i ni ddileu eich enw o'n rhestr ddosbarthu, anfonwch yr ebost hwn nôl atom gan nodi Dileu yn y teitl, neu dilynwch y linc isod.
If you do not wish to receive further emails from us, please return this message and include Delete in the subject title, or follow the link below.
 
Deil Dalen a'n partneriaid yr hawlfraint ar yr holl ddeunydd sydd yn yr e-neges hon.
Dalen and its partners retain all rights to the content of this e-message.
 
© Dalen (Llyfrau) Cyf 2012




No comments:

Post a Comment